Oriel Gelf Glynn Vivian: blog

Matt Cook: Sgwrs Artist

| 0 comments

Matt Cook, Comb Sculpture

Matt Cook, Comb Sculpture

Ymunwch â ni yn y YMCA nos Iau 30 Hydref am 5.30pm i wrando ar yr artist Matt Cook yn siarad am ei arfer diweddar gan gynnwys gwaith a wnaed ar gyfer Caerdydd Gyfoes a’i Wobr Cymru Greadigol.

Mae Matt Cook yn cyfuno elfennau o sain, gosodiad, cydosod a pherfformiad i greu gweithiau celf a ysbrydolir gan gerdded yn y ddinas. Bydd Matt yn trafod yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’w osodiad cyhoeddus ar gyfer Caerdydd Gyfoes a’r gwaith a wnaed gyda’i wobr Cymru Greadigol.

Mae Matt Cook yn gweithio gyda deunyddiau mae’n dod ar eu traws mewn bywyd bob dydd: gwrthrychau, synau, golygfeydd a phrofiadau, y mae’n eu hailosod fel gwaith perfformiad a gosodiadau sy’n ceisio ailgreu ei brofiad o’r byd.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y ddinas, ei naws a’i thopograffeg, y mae’n mynd i’r afael â hi drwy gerdded, edrych, gwrando, meddwl a theimlo. Mae’n datgelu adeileddau cudd mewn bywyd bob dydd, golygfeydd a synau rydym yn eu profi’n rheolaidd, ond nid ydynt fel arfer yn sylwi arnynt.
Yr hyn sy’n gyffredin i’w holl waith yw elfen fyw, maent yn sonig neu’n ginetig neu’n dangos byrhoedledd go iawn neu a ddychmygir.

Mae gwaith blaenorol yn cynnwys comisiynau ac arddangosfeydd ar gyfer firstsite, Colchester; Wysing Arts, Caergrawnt; Chapter, Cardiff; BCA, Bedford.

Yn ogystal â’i arfer celf, mae Matt hefyd yn rheoli stiwdios Warwick Hall.

Ewch i wefan yr artist.

I gael mwy o wybodaeth am sgyrsiau Artist a Digwyddiadau eraill Oddi ar y Safle Glynn Vivian, ewch i www.glynnviviangallery.org.

Mynediad am ddim, croeso i bawb ac nid oes angen neilltuo lle.

Gadael Ymateb

Required fields are marked *.


Discover Swansea logo Friends of the Glynn Vivian Art Gallery logo
Arts Council of Wales logo Welsh Assembly Government logo Tate Plus logo Heritage Lottery Fund Logo City and County of Swansea logo