Oriel Gelf Glynn Vivian: blog

Arddangosfa Y Prosiect Llyfr

| 0 comments

Mae Arddangosfa Oddi ar y Safle Glynn Vivian: Y Prosiect Llyfr ar agor yn yr Ystafell Ddarllen, Adeilad Alex, Coleg Celf Abertawe (PCYDDS).

Mae’r Prosiect Llyfr yn cyflwyno gwaith wyth artist a gomisiynwyd er mwyn myfyrio ar orffennol, presennol a dyfodol yr Oriel yn ystod yr adeg hon o ailddatblygu ac adnewyddu. Gan gynnwys artistiaid Eva Bartussek, Paul Duerinckx, Richard Higlett, Anthony Shapland, Adele Vye, Simon Whitehead, Barnaby Oliver a Craig Wood, bydd y gweithiau celf yn yr arddangosfa hon yn cael eu hymgorffori i lyfr artistiaid, i’w gynhyrchu cyn i’r Glynn Vivian ailagor yn hwyrach eleni.

Mae detholiad o luniau o’r arddangosfa i’w weld ar Flickr.

Gadael Ymateb

Required fields are marked *.


Discover Swansea logo Friends of the Glynn Vivian Art Gallery logo
Arts Council of Wales logo Welsh Assembly Government logo Tate Plus logo Heritage Lottery Fund Logo City and County of Swansea logo