Oriel Gelf Glynn Vivian: blog

Penwythnos Agoriadol y Glynn Vivian 15 – 16 Hydref 2016

| 0 comments

Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian ar ei newydd wedd yn ailagor ddydd Sadwrn 15 Hydref 2016 ar ôl trawsnewidiad gwerth miliwn o bunnoedd.

Gyda mwy o fannau oriel a chymdeithasol, a llyfrgell, darlithfa ac ystafell gymunedol newydd, bydd y Glynn Vivian yn cynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar i bobl fwynhau celf ynddo. Mae’r ychwanegiadau newydd cyffrous hefyd yn cynnwys caffi, siop a lifft i’r holl orielau, felly gall mwy o bobl nag erioed o’r blaen fwynhau mynediad i’r gweithiau celf.

I lansio dathliadau’r penwythnos agoriadol, mae saith artist wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i baratoi Gorymdaith Agoriadol fawreddog i groesawu pawb yn ôl i’r Glynn Vivian ac i’r adeilad newydd.

Alien Disco Masks with artist Megan Broadmeadow. Photography Eva Bartussek

Mygydau Disgo Estroniaid gyda’r artist Megan Broadmeadow. Ffotograffiaeth Eva Bartussek

Am eich cyfle i ddod a chymryd rhan, ymunwch â ni ddydd Sadwrn 17 Medi rhwng 12pm a 4pm yn y YMCA i wneud gwisgoedd, baneri, pypedau a chelfi ar gyfer yr orymdaith a bod yn rhan o’r cyfnod cyffrous hwn ar gyfer yr oriel.

Heroes & Villain with artist Zanne Andrea. Photography Eva Bartussek

Arwyr a Dihirod gyda’r artist Zanne Andrea. Ffotograffiaeth Eva Bartussek

Ysbrydoli/Insipired in Spirit with artist Aled Simons. Photography Eva Bartussek.

Ysbrydoli/Insipired in Spirit gyda’r artist Aled Simons. Ffotograffiaeth Eva Bartussek.

Bydd y Glynn Vivian yn agor gyda phenwythnos llawn digwyddiadau am ddim a cherddoriaeth fyw ac mae’n nodi dechrau oriel gelf newydd fywiog ac ysbrydolus i bawb.

  • Dydd Sadwrn 17 Medi, 12pm – 4pm, YMCA Abertawe – gweithdai paratoi ar gyfer yr Orymdaith Agoriadol
  • Dydd Sadwrn 15 Hydref – Penwythnos agoriadol yn dechrau gyda’r orymdaith
  • Dydd Sul 16 Hydref – Digwyddiadau am ddim yn parhau yn y Glynn Vivian

Glynn Vivian Art Gallery, Heol Alexandra, Abertawe SA1 5DZ

01792 516900 www.glynnviviangallery.org

Gadael Ymateb

Required fields are marked *.


Discover Swansea logo Friends of the Glynn Vivian Art Gallery logo
Arts Council of Wales logo Welsh Assembly Government logo Tate Plus logo Heritage Lottery Fund Logo City and County of Swansea logo