Oriel Gelf Glynn Vivian: blog

Dysgu

Mae tîm Dysgu’r Glynn Vivian yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ac amrywiol oddi ar y safle i bob oedran. Ysbrydolwyd y gweithdai gan gasgliad yr Oriel, celf a diwylliant cyfoes. Cynhelir y gweithdai yn y YMCA, Abertawe neu mewn amrywiaeth o safleoedd yn y gymuned leol tra bod gwaith adnewyddu ym mhrif adeilad yr oriel yn cael ei gwblhau.

Mae’r Sgyrsiau Artist a’r Caffi Cymunedol gwych yn ategu at Rhaglen Arddangosfa a Chasgliadau’r Oriel ac mae’n gwahodd artistiaid sy’n enwog yn rhyngwladol ac yn genedlaethol i rannu a thrafod eu gwaith eu hunain.Tate Movie workshop

Mae rhaglen Artist Preswyl y Glynn Vivian yn gyfle i’r gymuned leol gysylltu ag artist trwy gyfres o sgyrsiau artist, stiwdios agored a digwyddiadau arbennig.
Mae Ysgolion Glynn Vivian yn darparu cyfle i ddisgyblion Ysgol Gynradd ac Uwchradd archwilio casgliad yr Oriel trwy weithdai diwrnod llawn neu hanner diwrnod.

Mae’n holl ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim.

Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalen Gweithgareddau Dysgu’r Glynn Vivian Oddi ar y Safle. Mae rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau ar gael ar-lein yn Digwyddiadau Oriel Gelf Glynn Vivian.

Gadael Ymateb

Required fields are marked *.


Discover Swansea logo Friends of the Glynn Vivian Art Gallery logo
Arts Council of Wales logo Welsh Assembly Government logo Tate Plus logo Heritage Lottery Fund Logo City and County of Swansea logo