Oriel Gelf Glynn Vivian: blog

Sgwrs a Digwyddiadau

Chwefror

Sgwrs Awdur Preswyl: Joe Dunthorne, nos Iau 25 Chwefror, 5.30pm, YMCA, Abertawe.

Llun: Angus Muir, 2011

Llun: Angus Muir, 2011

Cafodd Joe Dunthorne ei eni a’i fagu yn Abertawe. Cafodd ei nofel gyntaf, Submarine, ei chyfieithu i 16 iaith a’i haddasu ar gyfer ffilm a gafodd ei chyfarwyddo gan Richard Ayoade a’i chynhyrchu gan Ben Stiller. Cafodd ei lyfryn barddoniaeth cyntaf ei gyhoeddi gan Faber and Faber. Cyhoeddwyd ei ail nofel, Wild Abandon, yn 2012 ac enillodd y Wobr Encore. Mae ei straeon wedi cael eu cyhoeddi yn y Paris Review, McSweeney’s a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer The Sunday Times.

Ymunwch â Joe wrth iddo drafod ei gyfnod preswyl diweddar.

 

Mawrth

Sgwrs Artist Preswyl: Cheon Pyo Lee, nos Iau 24 Mawrth, 5.30pm, YMCA, Abertawe. 

Llun: Cheon Pyo Lee, ‘Medium is the same’ mixed media installation

Llun: Cheon Pyo Lee, ‘Medium is the same’ mixed media installation

Artist Preswyl Glynn Vivian Oddi ar y Safle yn y YMCA, Abertawe.YMCA 1 Ffordd y Brenin Abertawe SA1 5JQGlynn Vivian oddi ar y safleMae’r digwyddiad hwn am ddim.24 Maw 2016

Bydd Artist Preswyl presennol Camlas Tawe, Cheon Pyo Lee, yn siarad am ei arfer hyd yn hyn a sut mae hyn yn berthnasol i’w gyfnod preswyl diweddar gydag Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru a ariannwyd gan ACW.

 

Gadael Ymateb

Required fields are marked *.


Discover Swansea logo Friends of the Glynn Vivian Art Gallery logo
Arts Council of Wales logo Welsh Assembly Government logo Tate Plus logo Heritage Lottery Fund Logo City and County of Swansea logo